Water Regulations UK Limited (Water Regs UK)


Mae Water Regs UK yn cefnogi cwmnïau dŵr yn eu rôl wrth ddarparu cyflenwadau dŵr diogel a gwydn yn y DU.

Trwy hyrwyddo'r Rheoliadau Ffitiadau Dŵr, maen nhw'n amddiffyn iechyd y cyhoedd trwy helpu i gadw dŵr yn ddiogel, fel ei fod yn ddiogel i'w yfed bob amser ac nad yw'n cael ei wastraffu.

Mae Water Regs UK yn cydweithio'n agos â 26 o gwmnïau dŵr ar draws y DU. Mae'r gwaith yn eu cynorthwyo gyda’u targedau i ddiogelu ansawdd dŵr yfed, lleihau gollyngiadau, hybu effeithlonrwydd dŵr, cynorthwyo datblygwyr â chysylltiadau newydd, a darparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid.

Beth mae Water Regs UK yn ei wneud?

Maen nhw'n cael eu hariannu gan gwmnïau dŵr i:

  • Hyrwyddo'r rheoliadau dŵr trwy ddarparu gwybodaeth am y rheoliadau, cynnig llinell gynghori a darparu hyfforddiant.
  • Cymeradwyo plymwyr a chontractwyr. Nhw sy'n gweinyddu WIAPS - Cynllun Plymwyr Cymeradwy'r Diwydiant Dŵr, ar ran yr 14 cwmni cyflenwi, gan gynnwys Dŵr Cymru. Mae aelodau WIAPS ar gofrestr plymwyr cymeradwy DU-eang WaterSafe hefyd, sy'n cael ei gefnogi gan holl gwmnïau dŵr y DU ac yn cael ei weinyddu gan Water Regs UK.
  • Cefnogi'r diwydiant dŵr. Maen nhw'n hwyluso cydweithio rhwng cwmnïau dŵr i rannu dysg, profiad a gwybodaeth am risgiau â’r diwydiant a datblygu arferion da rhwng cwmnïau. Maen nhw'n darparu pwynt canolog ar gyfer cyfathrebu â rhanddeiliaid allanol ar y rheoliadau ffitiadau dŵr.

I gael rhagor o fanylion am Water Regs UK, cliciwch yma.