WaterSafe


Cyfleuster chwilio ar lein rhad ac am ddim sy'n cael ei ariannu gan y diwydiant dŵr er mwyn helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i blymwyr medrus a chymwys yw WaterSafe.

Corff achredu cenedlaethol yw'r cynllun. Mae'n archwilio ac yn cymeradwyo busnesau a'u plymwyr er mwyn rhoi tawelwch meddwl i gwsmeriaid am y bobl sy'n cyflawni gwaith iddyn nhw.

Mae'n tynnu ynghyd miloedd o gontractwyr cymwysedig sy'n cael eu cyflogi gan fusnesau plymio o'r saith cynllun contractwyr cymeradwy ar draws y DU, gan gynnwys:

  • Cynllun Plymwyr Cymeradwy’r Diwydiant Dŵr (WIAPS),
  • Cymdeithas y Contractwyr Plymio a Gwres (APHC),
  • Sefydliad Siartredig y Peirianwyr Plymio a Gwres (CIPHE),
  • Ffederasiwn Cyflogwyr Plymio'r Alban a Gogledd Iwerddon (SNIPEF),
  • Cynllun APLUS Angilian Water,
  • Cynllun Watermark Severn Trent

Eu nod yw eich helpu chi i ddod o hyd i beiriannydd plymio cymwys lleol yn eich ardal chi i helpu i gadw cyflenwadau dŵr yn ddiogel ac yn iach mewn cartrefi a busnesau.

Mae defnyddio plymwr/busnes plymio cymeradwy yn helpu i atal y risg bod dŵr yfed yn cael ei halogi oherwydd arferion plymio gwael neu gynnyrch diffygiol.

Mae'r cynllun yn cael ei gefnogi gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed yng Nghymru a Lloegr, sy'n darparu sicrwydd annibynnol bod cyflenwadau dŵr cyhoeddus yn ddiogel, a bod ansawdd dŵr yfed yn dderbyniol.

Mae canllawiau'r GIG yn cynghori bod pob ymddiriedolaeth ysbyty'n defnyddio plymwyr cymeradwy ar eu safleoedd er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

Mae gan blymwyr sydd wedi cael sêl bendith WaterSafe hyfforddiant penodol yn y Rheoliadau a'r Is-ddeddfau Ffitiadau Dŵr er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni'r gofynion cyfreithiol llym ar gyfer gosod pibellau a ffitiadau dŵr.

I gael rhagor o fanylion am WaterSafe, cliciwch yma.