Canllawiau ar Ddarparu Cyflenwadau Dŵr Yfed Dros Dro mewn Achlysuron
Paratowyd y ddogfen ganllaw yma ar gyfer trefnwyr achlysuron mawr fel yr Eisteddfod, sioeau amaeth neu garnifalau sydd angen cyflenwadau dros dro o ffynonellau cyhoeddus neu breifat neu o danceri neu fowserau. Mae'n berthnasol i bob achlysur sydd angen cysylltiad newydd â'r cyflenwad dŵr, yn ogystal ag achlysuron sy'n cysylltu â chyflenwad cyfredol, e.e. achlysuron blynyddol sy'n cael eu cynnal ar yr un maes.
Canllawiau ar Ddarparu Cyflenwadau Dŵr Yfed Dros Dro mewn Achlysuron
Ffeithlen Plwm
Mae'r ffeithlen plwm yn darparu gwybodaeth fanwl am blwm mewn dŵr ar gyfer cwsmeriaid â chyflenwadau preifat a chyhoeddus. Mae'n cynnig gwybodaeth bwysig am beryglon i iechyd. Mae'n esbonio hefyd pwy sy'n gyfrifol am bob rhan o'r pibellwaith a sut i ganfod a oes gennych broblem gyda phlwm. Cynhyrchwyd poster ategol i'w arddangos mewn siopau gwaith cartref er mwyn tynnu sylw at beryglon defnyddio sodr plwm ar systemau dŵr yfed.
Strategaeth Asesu Risg ar gyfer Cyfenwadau Dŵr Yfed mewn adeiladau Cyhoeddus
Nod y canllawiau hyn yw ategu strategaethau asesu risg cyfredol adeiladau cyhoeddus. Gellir ei ddefnyddio fel offeryn dilysu. Fe'i bwriedir ar gyfer sefydliadau sy’n cyflawni asesiadau ac archwiliadau o risg. Mae'n berthnasol dim ots ai cyflenwad cyhoeddus neu breifat sy'n cyflenwi'r adeilad cyhoeddus. Gall swyddogion awdurdodau lleol gymhwyso'r canllawiau hyn lle bo gan adeiladau cyhoeddus gyflenwadau dŵr preifat. Am y bydd angen cyflawni asesiad risg ar y safleoedd hyn, mae’r canllawiau’n darparu offeryn i gynorthwyo swyddogion i flaenoriaethu'r gweithgarwch yna.