Ap 'i-geology' BGS

Ap rhad ac am ddim ar gyfer ffonau clyfar yw iGeology sy'n gadael i chi fynd â dros 500 o fapiau daearegol o Brydain lle bynnag yr ewch chi fel y gallwch ddarganfod y dirwedd sydd dan eich traed.

‘GeoIndex Onshore’ BGS

Gweddarllennydd mynediad agored yw GeoIndex ac mae'n caniatáu i ddefnyddwyr chwilio am wybodaeth am gasgliadau data Arolwg Daearegol Prydain. Fe'i datblygwyd er mwyn galluogi defnyddwyr i weld cwmpas gwahanol fathau o ddata, gan gynnwys daeareg, ffynhonnau dŵr, tyllau turio a geocemeg.

Hydroddaeareg Cymru (adroddiad)

Adroddiad mynediad agored sy'n disgrifio dŵr daear yng Nghymru. Adnodd defnyddiol i roi trosolwg o’r dŵr daear yn eu hardaloedd gweithredol i swyddogion Awdurdodau Lleol.

Map o hydroddaeareg de Cymru

Map manwl o hydroddaeareg de Cymru gyda ffocws ar Galchfaen Carbonifferaidd.

Map o Hydroddaeareg Basn Clwyd a Sir Gaer

Map manwl o hydroddaeareg gyda ffocws ar dywodfeini Permo-Driasig basnau Clwyd a Sir Gaer