Croeso i adran Ardal Aelodau Partneriaeth Iechyd Dŵr Cymru. Dyma eich hwb preifat lle gallwch weld yr holl ddigwyddiadau o'r gorffennol.
Partneriaeth Iechyd Dŵr Cymru Digwyddiadau o’r Gorffennol
WHP Conference 2024
Dyddiad: Dydd Mercher 25 Medi 2024
Lleoliad: Canolfan Gynadledda Cefn Lea, Y Drenewydd
Eleni, dychwelom i Ganolfan Gynadledda Cefn Lea, lle cymerodd cydweithwyr ran mewn sefyllfa digwyddiad dŵr arall. Cawsom gyflwyniadau craff gan yr Athro John Fawell ar Heriau Dŵr ac Iechyd y Dyfodol, a Dr. Maggie Knights ar Enynnau Gwrthficrobaidd Gwrthiannol mewn Dŵr Gwastraff a Samplau Amgylcheddol ledled Cymru, ymhlith eraill.
WHP Conference 2023
Dyddiad: Dydd Iau 9 Tachwedd 2023
Lleoliad: Canolfan Gynadledda Cefn Lea, Y Drenewydd
Ail-ymgyfarwyddodd cydweithwyr â'r Cynllun Rheoli Digwyddiadau Dŵr a chawsant gyfle i nodi a thrafod syniadau gwella yn ystod gweithdy wedi'i seilio ar sefyllfa.
WHP Conference 2022
Dyddiad: Dydd Mercher 30 Tachwedd 2022
Lleoliad: Canolfan Gynadledda Cefn Lea, Y Drenewydd
Cafwyd trafodaethau defnyddiol iawn rhwng cydweithwyr ac un o allbynnau'r gweithdy yw'r ymrwymiad i ffurfio grŵp gorchwyl a gorffen newydd Digwyddiadau Dros Dro. Un o amcanion y grŵp fydd adolygu ac ailgyhoeddi dogfen Canllaw Partneriaeth Iechyd Dŵr ar gyfer Digwyddiadau Dros Dro. Mae hwn bellach wedi'i gwblhau ac mae i'w weld ar y dudalen Cyhoeddiadau
2021
Cyfyngiadau Covid-19
Covid-19 restrictions have meant that we have all had to consider alternative ways of keeping in touch with each other. The Partnership have produced a newsletter that provides an update on key developments in Water & Health matters and provides information on recent and current issues from Stakeholders.
2019
Dyddiad: Dydd Mercher 18 Medi 2019
Lleoliad: Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-muallt
Clywodd y gynhadledd gan amrywiaeth o siaradwyr gan gynnwys Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a'r Môr yn Llywodraeth Cymru, ar weledigaeth y llywodraeth ar gyfer y sector, yn ogystal â'r Athro John Fawell ar yr heriau sy'n dod i'r amlwg sy'n wynebu dŵr ac iechyd y cyhoedd. Cafwyd diweddariad hefyd gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed, a chan Ail-lenwi Cymru, ar gynnydd eleni gyda'r fenter Ail-lenwi. Daeth y digwyddiad i ben gyda sylwadau terfynol gan yr Athro Stephen Palmer.
2018
Dyddiad: Dydd Iau 13 Medi 2018
Lleoliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth