Eich bil blynyddol 2024
Os nad oes gennych fesurydd dŵr, byddwch yn derbyn eich bil blynyddol gennym rywbryd ym mis Chwefror neu fis Mawrth.
Cwestiynau cyffredin am eich bil blynyddol
Bydd y rhan fwyaf o'n cwsmeriaid aelwydydd yn gweld gostyngiad o 0.6% ar gyfartaledd yn eu biliau dŵr a dŵr gwastraff nodweddiadol.
Mae'r gostyngiad oherwydd y cosbau a gawsom am darfu ar y cyflenwad a gollyngiadau yn ystod blynyddoedd blaenorol.
£701 fydd “Bil Cyfartalog yr Aelwyd” ar gyfer 2024-25, sef gostyngiad o tua £2.00. Swm cyfartalog yw hwn a gall amrywio.
Caiff eich bil blynyddol ei gyfrifo gan ddefnyddio system ardrethu a elwir yn Werth Ardrethol. Cyn 1990, roedd pob eiddo yn cael gwerth ardrethol penodol gan eich cyngor lleol.
Ar y pryd, roedd gwerthoedd ardrethol yn cynnwys nifer o bethau er enghraifft maint, cyflwr a lleoliad eich cartref.
Gwnaethom ddefnyddio gwerth ardrethol eich eiddo fel ffordd o gyfrifo eich taliadau dŵr anfesuredig. Gan mai nid ni wnaeth osod eich gwerth ardrethol, ni allwn ei newid.
Efallai y bydd gosod mesurydd o fudd i chi, cliciwch yma i wybod mwy.
Os ydych yn ei chael hi’n anodd talu, efallai y gallwn eich cefnogi gyda'n tariffau cymdeithasol. Cliciwch yma i wybod mwy.
Gan fod Gwerthoedd Ardrethol wedi'u gosod ar gyfer pob eiddo yn unigol, bydd adegau lle byddwch yn gweld eich bod yn talu mwy, neu lai, na'ch cymdogion er bod eich eiddo'n debyg iawn.
Efallai y bydd mesurydd dŵr gan rai cartrefi neu efallai eu bod ar dariff sy'n golygu y bydd eu bil yn wahanol.
Yn anffodus, ni fydd gennym ni, na'ch cyngor lleol, unrhyw fanylion am sut y cafodd eich eiddo ei asesu. Ataliwyd Gwerthoedd Ardrethol yn 1990 (oherwydd y cyflwynwyd y Dreth Gyngor), a oedd yn golygu nad oeddynt bellach yn cael eu hail-asesu na'u pennu ar gyfer unrhyw eiddo newydd a adeiladwyd ar ôl 1990.
Os ydych chi'n cael trafferth talu eich bil, peidiwch â dioddef yn dawel – siaradwch â ni. Rydym yn gwybod y gall bywyd fod yn llawn straen, yn anodd ei ragweld, a gall amgylchiadau personol newid yn gyflym iawn.
Efallai y gallwn eich helpu a chynnig cymorth ariannol. Gallwch hefyd sefydlu cynllun talu bob wythnos, bob pythefnos neu bob mis, cliciwch yma i gael gwybod mwy.
Gallwch dalu rhandaliadau bob wythnos, bob pythefnos neu bob mis, yn hytrach na thalu'n llawn pan fyddwch yn derbyn eich bil. Mae'n well gan y rhan fwyaf o'n cwsmeriaid dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol gan fod hynny’n gwasgaru'r gost yn ddi-dâl, mae'r taliadau'n cael eu cymryd yn awtomatig, ac mae’n cael ei ddiogelu gan ein gwarant Debyd Uniongyrchol. Fel arall, gallwch drefnu cael cerdyn talu os nad yw debyd uniongyrchol yn addas i chi.
Nid ydym yn cynnig gostyngiadau, rydym yn bilio ar gyfradd sefydlog ar gyfer eich eiddo. Os ydych yn sengl ac yn byw ar eich pen eich hun, gallai fod o fudd i chi fod â mesurydd dŵr a gallwch wasgaru cost eich bil drwy dalu'n wythnosol neu’n fisol drwy ddebyd uniongyrchol neu gerdyn talu.
Rheoli eich Cyfrif Dŵr Cymru ar-lein
Sut y byddaf yn gweld yr ad-daliad o £10.60 ar fy mil?
Bydd hyn yn dibynnu ar sut y byddwch yn talu eich bil. Edrychwch ar yr esiamplau isod.
Cael mynediad at eich cyfrif ar-lein
Mewngofnodwch neu cofrestrwch i Fy Nghyfrif, ar gyfer cwsmeriaid domestig ac busnes, i wneud y gorau o’n gwasanaethau ar-lein. Mae’n hawdd cofrestru a newid i filio di-bapur os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny.
Cwestiynau cyffredin
Gweld y rhestr lawn o gwestiynau cyffredin am eich bil blynyddol.
Mesurydd Dŵr
Os oes gennych chi fesurydd dŵr, byddwch yn cael bil sy’n adlewyrchu’r dŵr yr ydych chi wedi ei ddefnyddio dros gyfnod y bil hwnnw.
Ffyrdd o leihau eich bil
1. Dewiswch un o’r opsiynau isod
Sgwrs fyw
Siaradwch ag un o'n hasiantau gwasanaeth cwsmeriaid croesawgar am eich bil blynyddol.
Agor sgwrs fyw Sgwrsio byw all-lein Sgwrs fyw