Eich bil 2025Cwestiynau cyffredin am eich bil
Bydd y rhan fwyaf o'n cwsmeriaid preswyl yn gweld cynnydd o 32% o fis Ebrill ymlaen.
Bydd “Bil Cyfartalog y Cartref” ar gyfer 2025-26 yn cynyddu o £503 i £639 er bod y ffigwr hwn yn cynnwys tariffau cymdeithasol sy'n cael eu disgowntio'n drwm ac felly'n wahanol i'r cynnydd nodweddiadol y bydd y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn ei weld.
Byddai cwsmer nodweddiadol â mesurydd yn gweld ei fil blynyddol yn cynyddu o £437 i £575, tra byddai cwsmer nodweddiadol heb fesurydd yn gweld ei fil blynyddol yn cynyddu o £693 i £913.
Bydd cwsmeriaid dŵr yn unig yn gweld cynnydd o 46% a chwsmeriaid dŵr gwastraff yn unig yn gweld cynnydd o 24%, yn ogystal â chynnydd mewn biliau gan eu cyflenwr dŵr neu ddŵr gwastraff.
Mae cynnydd cyntaf yr AMP yn fwy nag y byddwn yn ei weld yn y blynyddoedd sy'n dilyn – tua 3% bob blwyddyn.
Yn gyntaf, nid oes gennym y pŵer i godi beth bynnag yr ydym ei eisiau am ein gwasanaethau. Mae terfynau prisiau yn cael eu gosod gan Ofwat – rheoleiddiwr annibynnol y diwydiant.
Bob pum mlynedd rydym yn cytuno ar lefel y buddsoddiad y byddwn yn ymgymryd ag ef i gyflawni gwelliannau y cytunwyd arnynt yn ystod cyfnod buddsoddi penodol gyda Ofwat.
Rydym bellach ar ddechrau cyfnod buddsoddi newydd neu AMP, a fydd yn golygu ein bod yn buddsoddi mwy na £4bn yn ein gwasanaethau gan gynnwys £2.5bn ar brosiectau i wella'r amgylchedd.
Bydd y buddsoddiad mawr ei angen hwn yn ein galluogi i leihau llygredd, uwchraddio ac adeiladu asedau hanfodol newydd, lleihau gollyngiadau, gwella ansawdd dŵr a gwella ein perfformiad fel cwmni.
Nid oes byth groeso i unrhyw gynnydd mewn prisiau – rydym bob amser wedi ceisio cadw'r rhain i isafswm – fodd bynnag, nid yw cynnydd mewn biliau wedi cadw i fyny â chwyddiant dros y 15 mlynedd diwethaf.
Mae yna nifer o ffactorau a allai fod yn gyfrifol am hyn. Er enghraifft, gall fod un cymydog yn defnyddio mesurydd neu gall fod gan yr eiddo werth ardrethol gwahanol os nad oes gan y naill na'r llall fesurydd. Byddai unrhyw ragdybiaethau am y rheswm dros y gwahaniaeth yn ddyfalu ac ni fyddai'n briodol i ni rannu unrhyw wybodaeth am gyfrifon unigolyn.
Rydym yn cydnabod bod costau byw yn parhau i effeithio ar ein cwsmeriaid. Mae ein tudalen help gyda'ch biliau yn darparu cefnogaeth gyda gwneud biliau’n fwy fforddiadwy trwy godi ymwybyddiaeth o’r opsiynau amrywiol sydd ar gael all fod o fudd i gartrefi a lleihau defnydd dŵr.
Os oes gennych fesurydd dŵr eisoes wedi'i osod, gallwch gael mwy o wybodaeth yma.
Edrychwch i weld a ydych yn gymwys ar gyfer unrhyw un o’n cynlluniau neu dariffau cymdeithasol
Defnyddiwch ein gwiriwr cymhwystra i wybod pa gynlluniau cymorth ariannol y gallwch wneud cais amdanynt.
Help gyda’ch biliau
Mae gennym nifer o ffyrdd y gallem o bosibl eich helpu a gwneud eich biliau'n fwy fforddiadwy.
Rydym yn cydnabod bod costau byw yn parhau i effeithio ar ein cwsmeriaid.Our help with bills page provides support and assistance in making bills more affordable by raising awareness of the various available options that can benefit households and reduce water usage.
Gwybod mwyCyfrifiannell amcangyfrif mesurydd
Atebwch ychydig o gwestiynau a gweld beth allai eich bil fod pe bai gennych fesurydd!
Faint o bobl sy'n byw yn eich eiddo?
Mae hyn yn cynnwys oedolion a phlant
Sut ydych chi'n defnyddio eich dŵr?
Ydych chi'n defnyddio cawod pŵer, peiriant golchi dillad neu beiriant golchi llestri, taenellwr gardd, neu bibell ddŵr?
Dewiswch ydy neu nac ydy
Eich amcangyfrif misol
Ar sail yr wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi, byddem ni’n disgwyl i'ch bil fod tua £{MonthlyCharge} y mis pe baech yn newid i fesurydd.
Amcangyfrif yn unig yw hwn, gall eich bil fod yn uwch neu'n is na hyn yn dibynnu ar faint o ddŵr yr ydych yn ei ddefnyddio. Byddai eich bil wedi’i seilio ar faint o ddŵr yr ydych yn ei ddefnyddio bob 6 mis.
Os oes gennych ddiddordeb, clicwch yma am fwy o wybodaeth.
Gallai eich bil bod o gwmpas
£{{monthlyCharge}}
y mis
neu £{AnnualCharge} y blwyddyn.
Dyma sut y caiff pob punt o’r gwariant sy’n cael ei ariannu trwy filiau cwsmeriaid ei gwario dros y 12 mis nesaf.
Ein Cynllun Busnes 2025-2030
Mae’r diwydiant dŵr yng Nghymru a Lloegr yn gweithio fesul cylch 5-mlynedd, ac mae ein Cynllun Busnes yn cwmpasu’r cyfnod 2025-30.
Gwybod mwy