Wrth i'r argyfwng costau byw barhau, mae gennym nifer o ffyrdd y gallem o bosibl eich helpu a gwneud eich biliau'n fwy fforddiadwy.
Bwriad ein hwb costau byw yw cefnogi ein cwsmeriaid a chodi ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael a fyddai o fudd i aelwydydd a lleihau'r defnydd o ddŵr.
Mae gennym nifer o ffyrdd y gallem o bosibl helpu
-
Tariff HelpU
Tariff dŵr a charthffosiaeth ar gyfer aelwydydd incwm isel ar fudd-daliadau prawf modd i leihau taliadau yn y dyfodol.
-
Tariff Terfyn Bil - WaterSure Cymru
Tariff dŵr a charthffosiaeth mesuredig ar gyfer teuluoedd incwm isel sy’n cael budd-dal cymwys; sy’n defnyddio mwy o ddŵr oherwydd bod mwy o bobl ar yr aelwyd, neu’u bod â chyflwr meddygol sy’n golygu bod yn rhaid iddynt ddefnyddio dŵr ychwanegol.
-
Cronfa Cymorth i Gwsmeriaid
Mae’r Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid wedi’i chynllunio i helpu’r rhai sydd mewn caledi ariannol difrifol i glirio dyledion a chael rheolaeth dros eu taliadau.
-
Cynllun Dŵr Uniongyrchol
Mae cofrestru ar gyfer cynllun talu Dŵr Uniongyrchol yn caniatáu i gwsmeriaid glirio ôl-ddyledion a thaliadau parhaus yn uniongyrchol o’u budd-daliadau ar gyfradd fforddiadwy.
-
Mesurydd Dŵr
Gallai tariff dŵr a charthffosiaeth mesuredig ar gyfer cwsmeriaid ar dâl sefydlog blynyddol uchel, neu ar gyfer y rhai nad ydynt yn defnyddio llawer o ddŵr neu’r rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain, helpu i leihau costau parhaus.
-
Os oes arnoch arian i ni eisoes
Gwyddom y gall bod mewn dyled fod yn straen a gall fod yn anodd gwneud yr alwad gyntaf. Dyma sut y gallwn ni helpu os ydych mewn ôl-ddyledion ar eich cyfrif.
Ein Strategaeth Bregusrwydd newydd hyd at 2030
Cefnogi ein cwsmeriaid. Gweithio wrth galon ein cymuned.
Cliciwch yma i wybod mwyYdych chi’n derbyn yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt?
Cyfrifiannell Budd-daliadau Turn2us
Mae Turn2us yn elusen Genedlaethol sy’n helpu pobl mewn adegau anodd. Defnyddiwch eu Cyfrifiannell Budd-daliadau i ddarganfod pa fudd-daliadau lles y gallech fod â hawl iddynt i gael gymaint o arian â phosibl.
Defnyddio’r Gyfrifiannell Budd-daliadauCalendr digwyddiadau
y Tîm Cymunedol
Mae ein Tîm Cymunedol yn mynd ati i hyrwyddo'r gefnogaeth a gynigir ac yn mynd i ddigwyddiadau fforddiadwyedd mewn cymunedau ledled y rhanbarth yr ydym yn ei wasanaeth yn rheolaidd.
Gweler isod y rhestr lawn o ddigwyddiadau.
1. Sgwrsiwch yn fyw gydag un o’n tîm cymorth ar-lein Oes
2. Cysylltu
Cysylltwch â’n tîm cymorth arbenigol
Sgwrs fyw am gymorth â biliau
Siaradwch ag un o’n hasiantau gwasanaeth cwsmeriaid am gymorth gyda’ch bil. 9am - 5pm Llun - Gwener. Ar gau ar wyliau banc.
Agor sgwrs fywCael cyngor diduedd
Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr
Mae’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn darparu cyngor a chanllawiau diduedd sy'n ymwneud ag unrhyw fath o broblem â chyflenwad dŵr neu garthffosiaeth mewn cartrefi.
Dysgu mwyTips i arbed dŵr
Oeddech chi'n gwybod? Mae'r person cyfartalog yn defnyddio 176 litr o ddŵr y dydd, sef bron i 310 peint!
Rydym yn defnyddio llawer o ddŵr yn ein cartrefi, ond mae ffyrdd hawdd iawn o arbed dŵr yn eich cartref a'ch gardd i arbed arian ac ynni.
Arbed DŵrFfyrdd eraill o arbed dŵr
-
Cartref
Cartref Trwsio gollyngiadau yn eich cartref am ddim a'ch helpu chi i arbed dŵr.
-
Ffitrwydd dŵr
Ddiddordeb mewn cynhyrchion a gwybodaeth effeithlonrwydd dŵr am ddim? Cofrestrwch i gael Ffitrwydd dŵr, archebu’ch dyfeisiau arbed dŵr a dechrau gwneud arbedion.
-
Ymdrin â gollyngiadau dŵr
Mae ein hwb gollyngiadau yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol i ddod o hyd i ollyngiadau a byrstiau a'u rheoli.
Ein Hymgyrchoedd
Mae gennym ni nifer o ffyrdd y gallwn ni eich helpu a gwneud eich biliau’n fwy fforddiadwy.
Os ydych chi’n hawlio budd-daliadau ar sail prawf modd a/neu anabledd, mae gennym lawer o opsiynau am gymorth ariannol a allai eich helpu chi i arbed arian ar eich bil dŵr.
Gwybod mwyCronfa Cymuned
Mae'r cynllun yn cynnig cefnogaeth tymor byr i aelwydydd sy'n gweithio pan fo'u biliau yn uwch na'u hincwm.
Cynnig cymorth ariannol gan Ddŵr Cymru. Ei nod yw helpu aelwydydd sy’n gweithio sy’n cael trafferth fforddio’r hanfodion, fel eu bil dŵr.
Darllenwch fwy am y Gronfa Cymuned yma